Hafan ::  Cronfa Frawddegau ::  Cymdeithas Cymru-Llydaw ::  Geriaoueg ::  Eurfa
Chwiliwch am air yn Gymraeg: Chwiliwch am air yn Llydaweg: Dewiswch iaith y rhyngwyneb:

Croeso i brezhoneg.org.uk

Mae'r dudalen hon yn cynnig gwahanol offer meddalwedd rydd i'w defnyddio gyda'r Llydaweg. Mae rhydd yma yn golygu meddalwedd sy'n defnyddio trwydded GPL (Trwydded Gyhoeddus Gyffredinol) y Sefydliad Meddalwedd Rydd (Free Software Foundation). Gall pawb ddefnyddio, archwilio, newid a dosbarthu meddalwedd rydd - y GPL yw'r drwydded orau i'w defnyddio os ydych am rannu cod a gwybodaeth yn rhydd.

Mae'r wefan hon yn gweithio'n dda ar boryddion Firefox, Opera a Safari. Mae'r wefan heb ei phrofi ar Microsoft IE.

Cronfa Frawddegau Breizh-Llydaw

Cyhoeddir Breizh-Llydaw ddwywaith y flwyddyn (a chynt deirgwaith y flwyddyn) gan Cymdeithas Cymru-Llydaw, ac yn y cylchgrawn hwn ceir newyddion ac erthyglau yn Gymraeg ac yn Llydaweg. Cynnwys y gronfa frawddegau fwy na 3,500 o frawddegau aliniedig o erthyglau dwyieithog mewn rhifynnau diweddar o Breizh-Llydaw, ac o gasgliad o ymadroddion a dyfyniadau a grewyd gan Rhisiart Hincks. Rhyddheir y brawddegau yma dan y drwydded GPL, diolch i ganiatâd caredig Dr Hincks, golygydd Breizh-Llydaw.

Hyd y gwyddom, dyma'r casgliad o frawddegau Cymraeg a Llydaweg cyntaf erioed ar y We, a hwn hefyd yw'r casgliad cyntaf erioed i'w ryddhau dan y GPL. (Mae casgliadau Cymraeg eraill i'w cael, ond heb fod ar gael dan drwydded rydd). Gobeithiwn y bydd y casgliad o ddefnydd i bobl sy'n dysgu Cymraeg, sy'n dysgu Llydaweg, neu sy'n gweithio ar brosiectau cymhleth megis cyfieithu peirianyddol rhwng y ddwy iaith.

Mae'r Cronfa Frawddegau Breizh-Llydaw ar gael yn fformat CSV fel y gellir ei fewnforio yn hawdd i daenlen.

Mae Cymdeithas Cymru-Llydaw yn hyrwyddo cysylltiadau rhwng y ddwy wlad gan ddefnyddio eu hieithoedd Celtaidd, ac mae'n trefnu amrywiol weithgareddau. Mae'r tâl aelodaeth yn £8 y flwyddyn - cwblhewch y ffurflen gais os hoffech ymuno. Ni chaiff y Gymdeithas ddim grant, ac mae'n dibynnu yn llwyr ar daliadau aelodaeth, ar arian a godir mewn gweithgareddau ac ar roddion.

Geiriadur

Mae'r geiriadur Llydaweg-Cymraeg, sy'n seiliedig ar restr geiriau Breizh-Llydaw ynghyd ag atodiadau o Wicipedia ac o Wiktionary, yn cynnwys 1,200 o eiriau, a gellir chwilio drwyddi gan ddefnyddio'r un rhyngwyneb â'r gronfa frawddegau. Os rhoir gair wedi ei dreiglo, bydd y chwilio yn dangos y ffurf heb ei threiglo, a gellir clicio ar hynny i gael rhagor o frawddegau sy'n cynnwys y ffurf heb ei threiglo. Gobeithiwn ehangu'r geiriadur yn sylweddol dros y misoedd nesaf.

Mae'r geiriadur ar gael yn fformat CSV fel y gellir ei fewnforio yn hawdd i daenlen.

Geriaoueg

Mae Geriaoueg, a grewyd gan Francis Tyers, yn declyn sy'n rhoi ystyr y geiriau ar dudalen we. Wrth ichi symud y llygoden dros y geiriau, mae neidlen yn dangos eu hystyr. Ar hyn o bryd, mae'n "brofydd cysyniad", felly nid yw pob tudalen yn gweithio'n dda, ond ar gyfer y Llydaweg ceisiwch dudalennau oddi wrth Ofis ar Brezhoneg neu oddi wrth KEAV, ac ar gyfer y Gymraeg ceisiwch dudalennau oddi wrth Bwrdd yr Iaith neu oddi wrth Cyngor Sir Ynys Môn.

Dadansoddydd morffolegol

Gan ddilyn y geiriaduron, mae Fran Tyers wedi creu dadansoddydd morffolegol ar gyfer y Llydaweg (ac i ieithoedd eraill, gan gynnwys y Gymraeg). I brofi'r cyfieithydd, gallwch gludo testun o Bremaik, sy'n cynnig newyddion wythnosol yn Llydaweg, neu geisiwch y cyswllt yma.

 

Kevin Donnelly